Ydych chi’n chwilio am swydd newydd, yn ystyried newid gyrfa, neu’n awyddus i gael eich diweddaru am gyfleoedd gwaith sy’n cyd-fynd â’ch sgiliau? Cofrestrwch gyda Cyfateb. Does gennych chi ddim byd i’w golli!
Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
Drwy greu proffil, byddwn yn storio eich manylion yn ein cronfa ddata ac yn eich paru â chyfleoedd perthnasol wrth iddynt godi. Dim ond pum munud mae’n ei gymryd i greu proffil Cyfateb a chychwyn chwilio am swydd heddiw.