Gallwch gael mynediad at ein cronfa ddata o siaradwyr Cymraeg ar gyfer swyddi ar bob lefel. Rhannwch yr hyn sy’n bwysig i chi gyda ni, gan gynnwys y sgiliau allweddol a’r profiad rydych chi’n chwilio amdano, a byddwn ni’n gwneud y gweddill.
Byddwn ni wedyn yn cysylltu gyda darpar ymgeiswyr sy’n cyfateb i’ch anghenion chi, gyda’r lefel cywir o ran gallu ieithyddol a phrofiad proffesiynol perthnasol.
Gallwn hefyd brofi lefel iaith ymgeiswyr er mwyn sicrhau eu bod yn iawn ar gyfer eich sefydliad a’ch diwylliant.
Peidiwch a dibynnu ar siawns. Cysylltwch i gychwyn cydweithio heddiw.